Amdanaf

Rwyf wedi hyfforddi'n llawn fel Cwnselydd Perthnasau gan Relate.  Rwy'n wrandäwr medrus a thosturiol.

Mae fy nulliau o gwnsela, yn bennaf, yn seicodynamig  sydd yn helpu i godi hunan- ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o sut mae'r gorffennol wedi dylanwadu ar feddwl ac ymddygiad presennol. Rwyf hefyd yn defnyddio agwedd  systemig sy'n canolbwyntio nid yn unig arnoch chi fel unigolyn, ond hefyd fel person mewn perthynas, yn delio â phatrymau rhyngweithio a deinameg.

Rwyf hefyd yn defnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT) – sydd yn effeithiol efo problemau cyffredin fel iselder a gorbryder.

 

Proses Therapiwtig

Yn aml, mae pobl sy'n chwilio am help drwy gwnsela yn aneglur am beth mae hyn yn golygu.

Rwy'n cynnig lle cyfrinachhol, parchus, diogel ac anfeirniadol i gleientiaid ddod i siarad am eu problemau.

Bydd y sesiwn cyntaf mewn ffurf asesiad mwy trylwyr lle byddwn yn trafod y materion sydd wedi dod â chi i gwnsela a ffyrdd a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen.

Moeseg

Mae'r Gwasnaeth Cwnsela hwn yn cydymffurfio a Fframwaith Moesegol Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi (BACP). Mae'n eich parchu chi fel unigolyn, a byddwch yn gallu ymddiried yn llwyr yn y gwasanaeth. I gael manylion polisiau a gweithdrefnu BACP, ewch i www.bacp.co.uk

Hyfforddiant Cwnsela

B.Sc (Anrh) Seicoleg Diploma Uwch Prifysgol

University Advanced Diploma – Cwnsela

Aelodaeth

Aelod o Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) Aelod o Gymdeithas Secolegol - Is-adran Seicoleg Cwnsela (BPS)

Ar nodyn personol

Yn byw  yma yng Nghanolbarth Cymru  mae gennym y gorau o’r ddau fyd -  y mynyddoedd a’r môr ond rwyf hefyd yn mwynhau teithio a gweld diwylliannau gwahanol.   Rwyf wrth fy modd yn treulio amser yn cerdded gyda fy nheulu, ffrindiau a chwn.  Rwy'n hoffi ymlacio gyda phaned o de a llyfr da o flaen y tân. Mae rhai o'm hoff bethau yn cynnwys llus, afocados, cŵn, coed a llechi!