Cwnsela

Ydach chi’n cael problemau ymdopi â’r hyn y mae bywyd yn ei daflu atoch chi?, neu efallai y ‘rydych chi ar eich pen eich hun neu yn methu â gweld ffordd ymlaen.

Efallai bod yna wrthdaro yn eich teulu neu yn y gwaith neu efallai eich bod chi’n teimlo nad ydych wedi cyflawni eich potensial llawn.

Mewn sesiynau cwnsela gallwn weithio efo’n gilydd drwy’r anhawsterau a chwilio am ffyrdd ymlaen.

Gweler rhestr o anhawsterau gallwn weithio ar efo’n gilydd:

  • Perthnasoedd
  • Pryder
  • Iselder
  • Cwnsela Cyffredinol
  • Hyfforddi bywyd
  • Datblygiad personol
  • Hunan-barch
  • Materion merched
  • Bwlio yn y gweithle
  • Berthnasau yn y gweithle
  • Trais yn y cartef a chamdrin