Gall deall arwain at newid go iawn
A ydych yn cael anhawster i ymdopi â’r hyn y mae bywyd yn ei daflu atoch neu’n teimlo’n eich bod mewn sefyllfa na allwch weld ffordd ymlaen? Mae sesiynau cwnsela’n cynnig lle cyfrinachol i chi siarad yn agored am eich perthynas. Mae awyrgylch cyfforddus yn hyrwyddo dealltwriaeth a datrys mewn gofod niwtral, heb farnu.
Mae cwnsela mewn perthynas yn ceisio nodi a, gobeithio, datrys gwrthdaro a materion rhwng pobl.
Gall y cydberthnasau dan sylw fod rhwng aelodau o deulu neu gwpl, cyflogeion neu gyflogwyr mewn gweithle.
Gall cwnsela fod yn addas ar gyfer unrhyw fath o berthynas lle mae pobl yn dod at ei gilydd ac yn dod o hyd i ddiffyg cytgord gan alluogi pob person i gael ei glywed ac i glywed ei hun.
Mae pob perthynas yn mynd drwy gyfnodau anodd
Mae cwnsela perthynas i gyplau yn darparu lle diogel a chyfrinachol i gyplau edrych ar broblemau o fewn eu perthynas, a dod o hyd i ffyrdd o’u datrys. Drwy annog bod yn eglur ac yn agored, ac annog cyfathrebu, gall cwnsela fod yn ddefnyddiol ar gyfer:
- Cyplau sy’n cael problemau yn eu perthynas ac sydd am ddatrys y gwrthdaro;
- Cyplau sy’n wynebu diwedd perthynas ond sydd am geisio ei achub yn gyntaf;
- Cyplau sy’n dod â’u perthynas i ben ond sydd am orffen ar delerau da;
- Unigolion sydd am ddeall pam nad yw eu perthynas â phobl yn gweithio neu sydd am newid patrymau dinistriol er mwyn creu perthynas mwy boddhaol â phobl yn y dyfodol.