Atebion i gwestiynau cyffredin ynglŷn â gwasanaethau cwnsela
Rydw i wedi fy lleoli mewn tri lleoliad yng Nghanolbarth a gogledd Cymru ar gyfer sesiynau wyneb yn wyneb, skype a chynghori dros y ffôn. Mae’n bosib cynnal sesiynau cynnar am 8.30 y bore a mae hefyd apwyntiadau hwyr ar gael hyd at 8.00 yr hwyr.
Cofiwch fod y sesiynau hwyr yn tueddu i lenwi’n gyflym ac efallai y bydd angen trefnu ymlaen llaw. Mae croeso i chi gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau am fy oriau.
Mae sawl ffordd i drefnu apwyntiad, felly gallwch ddewis yr opsiwn sy'n hawsach i chi.
Gallwch anfon neges ataf trwy'm ffurflen gyswllt neu anfonwch e-bost ataf at info@elaineowen.cymru
Gallwch chi ffonio ar 07793543038. Rwy'n gwneud fy ngorau i ateb galwadau ffôn, ond os cewch beiriant ateb, mae hynny'n golygu fy mod naill ai mewn sesiwn neu oddi wrth y ffôn. Mae croeso i chi adael neges, a byddaf yn dychwelyd eich galwad cyn gynted ag y gallaf.
Rwy'n deall gall pethau godi, felly gallwch ganslo neu ail-drefnu'ch apwyntiad -gydag o leiaf 48 awr o rybudd. Os ceir llai na 48 awr o rybudd, fe godir tâl am yr apwyntiad.
Rwy'n dilyn Côd Moeseg BACP - gweler www.BACP.co.uk.
Yn hollol gyfrinachol. Mae cyfrinachedd yn hanfodol bwysig i'r berthynas rhwngddom gan roi lle diogel i chi weithio trwy faterion personol. Bydd eich hawl i gyfrinachedd yn cael ei warchod yn ofalus ac ni chaiff ei ddatgelu heb eich caniatâd ysgrifenedig, ac eithrio mewn achosion o niwed posibl i chi'ch hun neu i eraill (yn enwedig plant neu'r henoed).
Darllenwch fy Mholisi Preifatrwydd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gofynnwch! Edrychaf ymlaen at glywed gennych chi!
Rwy'n cynnig ymgynghoriad ffôn 10 munud yn rhad ac am ddim i weld os mai fi yw’r person gorau i'ch helpu chi.
Nid oes nifer uchaf nac uchafswm o sesiynau y gallwch eu mynychu. Gellir penderfynu hyn ar sail unigol.
Mae POB sesiwn cwnsela yn 55 munud o hyd ac yn costio £40.00 y sesiwn (£50.00 fesul cwpl).
Rwy’n cynnig sesiynau hirach lle bo’n briodol ac yn seiliedig ar argaeledd.
Rhaid talu’r sesiynau hyn ymlaen llaw ar-lein cyn yr apwyntiad. Mae mathau derbyniol o daliad yn cynnwys BACS, cerdyn credyd/debyd a PayPal.
- Trais yn y cartref
- Gwahanu ac Ysgaru
- Rhianta/Magu Plant ar ôl gwahannu
- Llywio bod yn sengl a phriodas
- Pryderon yn eich Perthynas
- Iselder a Thristwch
- Pryder, ofnau a phoeni
- Creu Ffiniau Iach
- Cyfathrebu’n effeithiol
- Newidiadau Mawr Bywyd
- Darganfod Eich Hun a’ch Pwrpas
- Hunan-barch / Hunan-werth
- Materion Teuluol
- Dicter a maddeuant
- Galar a Cholled
Oes - gallwch darllen trwy cliciwch yma.
Rydw i yn gallu cyfarfod gyda chi ym Mhorthmadog neu Corris. Gallwn gael sesiynau dros y ffôn, Skype, Teams neu Zoom.